Clera

Informações:

Sinopsis

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)

Episodios

  • Clera Hydref 17

    01/10/2017 Duración: 53min

    Pennod a recordiwyd yn fyw o Wyl y Cynhaeaf, Aberteifi. Pwnco gyda'r Prifardd Ddoctor Hywel Griffiths ar gysylltiad Afon Teifi gyda Barddoniaeth Gymraeg. Cerdd Orffwysfa gydag Elinor Wyn Reynolds a sgwrs gyda'r bardd Philippa Gibson. Gemau a Giamocs, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog a mwy!

  • Clera Medi 2017

    17/09/2017 Duración: 46min

    Yn y bennod hon ceir sgwrs gyda Phrifardd Cadair Ynys Môn, Osian Rhys Jones, cerdd yr Orffwysfa gan Grug Muse, adolygiad o sioe farddol Ifor ap Glyn,'Y Gadair Wag', Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a'r Newyddion Heddiw.

  • Clera Awst o'r Babell Lên

    16/08/2017 Duración: 45min

    Pennod arbennig wedi ei recordio yn fyw o'r Babell Lên gyda gwesteion arbennig, sy'n cynnwys ambell brifardd, a chyn feirdd plant a beirdd dawnus eraill. O'r llinell gynganeddol ddmaweiniol o'r maes i'r Gemau a giamocs, mae digon i'ch difyrru o faes y brifwyl yng Ngwlad y Medra.

  • Clera Gorffennaf yn fyw o Sesiwn Fawr Dolgellau

    25/07/2017 Duración: 43min

    Pennod wedi ei recordio'n fyw yn Nhy Siamas, Dolgellau fel rhan o ddigwyddiadau Sesiwn Fawr 2017. Diolch i'r trefnwyr am y gwahoddiad. Ein gwesteion arbennig yw'r gantores Lowri Evans a'r beirdd Elis Dafydd a Gruffudd Antur. Mwynhewch!

  • Clera Mehefin

    26/06/2017 Duración: 47min

    Pennod mis Mehefin, gyda sawl eitem o Wyl Gerallt a gynhaliwyd ddiwedd Mai yn Aberystwyth. Cerdd o gyfrol newydd Annes Glyn sydd yn yr orffwysfa y tro hwn, ynghyd a phos newydd wrth Gruffydd Antur, trafodaeth bwnco ar ddarllen cyfrolau barddoniaeth a nifer o eitemau eraill i'ch diddanu, gobeithio!

  • Clera Mai 2017

    15/05/2017 Duración: 01h02min

    Ymhlith y danteithion i'ch difyrru ym mhennod mis Mai o Clera, mae sgwrs bwnco arbennig gyda'r Bardd Plant presennol, Anni Llŷn a phennaeth Ty Newydd, Llanystumdwy, Leusa Llewelyn. Hefyd, cerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths o'i gyfrol newydd o gerddi, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!

  • Clera Ebrill 2017

    09/04/2017 Duración: 01h12min

    Y podlediad barddol misol llawn o farddoni, cloncan a difyrrwch. Y Mis hwn mae gyda ni drafodaeth Pwnco ar yr Awdl gyda chyfraniad i'r sgwrs gan y prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs gyda'r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, Cerdd yn yr orffwysfa gan Iestyn Tyne, pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, hanes gornest gyntaf tim newydd sbon o feirdd ar y talwrn, llwyth o newyddion a mwy!

  • Clera Mawrth 2017

    13/03/2017 Duración: 01h10min

    Pennod Mis Mawrth 2017 o Clera. Pennod lawn dop y tro hwn, gyda sgwrs Pwnco yn dod o Dy Newydd, Llanystumdwy, Cerdd gan Nofelydd o fri, eitem newydd sbon, sgwrs gyda Golygyddion Y Stamp, adroddiad ar frwydr Slam Farddol fawr, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!

  • Clera Chwefror 2017

    12/02/2017 Duración: 57min

    Pennod y Mis Bach, 2017, o Clera. Digon o geekrwydd cynganeddol yn y bennod hon, gyda'r gwestai arbennig, Iwan Rhys, hefyd cerdd newydd gan Fardd Plant Cymru, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy.

  • Clera Ionawr 2017

    15/01/2017 Duración: 01h03min

    Clera Ionawr 2017 by Clera

  • Clera Mis Rhagfyr

    16/12/2016 Duración: 52min

    Pennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera yng nghwmni Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog.

  • Clera Tachwedd 2016

    19/11/2016 Duración: 51min

    1. Pwnco: sgwrs ag Elinor Wyn Reynolds a Gwennan Evans am ferched yn y sîn farddol 2. 29:10 Yr Orffwysfa: cerdd gan Marged Tudur 3. 31:19 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 4. 38:03 Pryd o Dafod: yr acen 5. 41.58 Sgwrs â Dwynwen, cynhyrchydd Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru 6. 47.13 Newyddion

  • Clera Hydref 2016

    26/10/2016 Duración: 48min

    Pennod gyntaf Podlediad misol newydd sy'n trafod barddoni. Y mis hwn mae Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury yn holi pam nad oes cymaint o feirdd yn cystadlu yng nghystadleuaerthau Barddoniaeth yr Eisteddfod bellach, cewch glywed cerdd newydd sbon gan Osian Rhys Jones a hanes Gwyl y Cynhaeaf, Aberteifi, ymysg pethau eraill.

página 5 de 5